Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(227)v4

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

 

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Purfa Murco, Aberdaugleddau (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)

 

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

</AI4>

<AI5>

5 Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (60 munud)

NDM5610 David Melding (Canol De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Anghymhwyso Person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Gorffennaf 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI5>

<AI6>

6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5608 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Triniaethau Canser i Gymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa technolegau iechyd i gynnwys meddyginiaethau ar gyfer canser a chlefydau eraill.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu popeth ar ôl "sefydlu" a rhoi "dull gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at driniaethau canser" yn ei le.

</AI6>

<AI7>

7 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5611 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU ar ôl y llall.

 

2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.

 

3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.

 

4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru;

 

b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen fwyaf;

 

c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol; a

 

d) ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i fod yn gymwys i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ym mhwynt 1, ar ôl DU mewnosoder "a Llywodraeth Cymru"

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

ac yn cydnabod hefyd yr angen i newid cydbwysedd economi Cymru i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth ar hyd coridor de Cymru (yr M4).

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod y sefydlogrwydd economaidd sy'n deillio o bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ysgogi twf economaidd ledled y DU.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 5(d).

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

Paratoi strategaeth allforio glir i Gymru i uno dyfeisgarwch sector preifat â chefnogaeth sector cyhoeddus.

 

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynigion y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnwys cael gwared ar Cyllid Cymru a sefydlu Buddsoddi Cymru yn ei le.

 

Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y dirywiad yn GYC Cymru o dan 15 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru.

</AI7>

<AI8>

8 Cyfnod Pleidleisio 

</AI8>

<AI9>

9 Dadl Fer (30 munud)

NDM5612 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

 

Gwella bywydau pobl hŷn

 

Pum ffordd syml a rhad o wella bywydau pobl hŷn.

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>